£97,861 per annum
About the Organisation:
The Local Government and Elections (Wales) Act 2021 provides for new Corporate Joint Committees (CJCs) as a mechanism for regional collaboration and development. This system of regional planning and investment provides for a more consistent and democratically legitimate framework, into which, CCR has integrated regional growth programmes such as its City Deal.
As a new public body, established to shape and co-ordinate regional public investment, the CJC provides the opportunity for regional growth on a greater scale, with a strong sense of agency and identity. The new levers, policy-making tools and corporate duties that will drive impact across CCR’s plans, programmes, functions and projects, must be developed and delivered with clear reference to CCR’s overarching mission and constitutional powers. In tandem with these significant opportunities and new levers, comes a set of new and increased responsibilities and accountabilities. We are therefore looking for an experienced leader who can balance the diligence and rigour required with the flair to help shape, build and lead a purposeful and impactful regional entity.
Being in at the start and shaping the development of the embryonic CJC, provides an unrivalled opportunity to make a difference to public life at this critical juncture in Wales. The postholder will have a deep understanding of the law and rudiments of good governance - understanding when to apply finely honed judgement skills and making use of negotiation and influencing skills in navigating towards consensus.
About the Job:
To report directly to the CEO, leading the CJC’s Legal and Governance business unit- informing every stage of CJC implementation and enactment and ensuring fulfilment of core standards around transparency, risk management, good governance and effective decision making. As required under the provisions s5 of the Local Government and Housing Act 1985, the postholder will perform the role of Monitoring Officer.
The postholder will contribute to whole-CJC functions and leadership, providing resilience and support as a member of the CJC Executive Team. Key areas of responsibility will include:
- Legal Services
- Statutory Monitoring Officer role
- Ethical Framework
- Information Management
- Complaints
- Procurement
- Democratic Services
What we are looking for from you:
The role requires the skillset and background of a highly experienced legal professional, who is familiar with the requirements of the statutory Monitoring Officer function, providing sound legal advice and support to the CJC and Senior Executive Team, of which you will form a critical part. You will lead and develop the service to ensure the provision of a contemporary, solutions-driven legal and governance function. As well as technical proficiency, assurance and probity, the role requires acumen and value creation that supports the ambitions of the region. Your leadership skills will inspire and motivate across all functions and your ideas and innovative thinking will play a part in ensuring CCR reaches its goals for a stronger, greener and fairer economy. Thinking strategically and building and maintaining relationships will be key to your success in this role.
Trosolwg
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer Cyd-
bwyllgorau Corfforaethol (CJCs) newydd fel peirianwaith ar gyfer cydweithredu a
datblygu rhanbarthol.
Mae’r system hon o gynllunio a buddsoddi rhanbarthol yn darparu ar gyfer fframwaith mwy cyson a democrataidd gyfreithlon, y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi trawsnewid rhaglenni twf rhanbarthol iddo, megis ei Bargen Ddinesig.
Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous i adeiladu corff cyhoeddus endid corfforaethol cyfreithiol newydd a chreu system newydd o fuddsoddi cyhoeddus rhanbarthol ym Mhrifddinas- Ranbarth Caerdydd. Mae tynnu ynghyd ac integreiddio rhaglenni cyllido cydrannol, partneriaethau, strwythurau pwyllgorau a chwmnïau a berchnogir yn llwyr i mewn i’r fframwaith cyfreithiol newydd, yn cyhoeddi dyfodol newydd a disglair i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ar adeg pan fo twf economaidd a llywodraethu datganoledig yn faes blaenoriaeth i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig. Gydag agenda o newid polisi, canolbwyntio ar dwf a set gyflawn o ofynion corfforaethol a chyfreithiol newydd i’w gweithredu - mae ymwreiddio’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd yn llawer mwy na gorchwyl technegol - mae’n ymwneud â gosod y rhanbarth ar seiliau sy’n sylfaenol gadarnach ac addas ar gyfer y dyfodol.
Bydd deiliad y swydd yn gallu cymell ei hun ac yn gallu mynd i’r afael â’r cymhlethdod hyn a gweithio’n gydweithredol i lywio llwybr eglur o’i flaen. Mae gwreiddio pwerau newydd, dyletswyddau cyfreithiol a Chyfansoddiad newydd yn darparu cyfle i ddatblygu diwylliant a dyluniad sefydliadol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol – gan sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforaethol y tu hwnt i ddarpariaethau a phwerau technegol mewn sefyllfa ffafriol i gyflawni’i flaenoriaethau twf, arloesi a buddsoddi.
Bydd y rôl yn gofyn am gydbwysedd o ddiwydrwydd a manwl gywirdeb, ochr yn ochr â’r craffter a’r ddawn sydd eu hangen i uchafu’r cyfle i helaethu a chael effaith, arweinyddiaeth meddylfryd a dylanwad. Mae’r rôl yn cynnig y cyfle i greu glasbrint ar gyfer twf a llywodraethiant rhanbarthol a all wrthsefyll y profion o newidiadau a chynnwrf parhaus. Mae bod yn rhan ar y dechrau a llunio datblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eginol yn darparu cyfle heb ei ail i wneud gwahaniaeth i fywyd cyhoeddus ar yr adeg dyngedfennol hon yng Nghymru. Bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth raenus o’r gyfraith ac o egwyddorion llywodraethu da – yn deall pa bryd i weithredu sgiliau barnu sydd wedi’u mireinio’n dda ac i ddefnyddio sgiliau trin a thrafod a dylanwadu i lywio tuag at gonsensws.
Fel sy’n ofynnol o dan ddarpariaethau adran 5 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1985, bydd deiliad y swydd yn perffformio rôl Swyddog Monitro.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu tuag at swyddogaethau ac arweinyddiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforaethol cyfan, gan ddarparu cydnerthedd a chefnogaeth fel aelod o Dîm Gweithredol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol. Bydd meysydd cyfrifoldeb allweddol yn cynnwys:
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Rôl Swyddog Monitro Statudol
- Caffael
- Rheoli Gwybodaeth
- Fframwaith Moesegol
- Cwynion
- Cysylltu â Chomisiynwyr
- Gwasanaethau Democrataidd.
Diben y Swydd:
Adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Swyddog Gweithredol, arwain uned fusnes Cyfreithiol a Llywodraethiant y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, gan hysbysu pob cam o weithredu a deddfu’r Cyd- bwyllgor Corfforaethol, a sicrhau y cyflawnir safonau craidd o ran tryloywder, rheoli risg, llywodraethu da a llunio penderfyniadau effeithiol.
Gweithredu’r rôl fel Prif Gynghorwr Cyfreithiol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, fel mae’n dyrchafu a syflyd gweithgaredd twf rhanbarthol cyfredol i’r endid corfforaethol a gweithredu llu o ddyletswyddau polisi ac offerynnau statudol newydd, gan sicrhau y cydymffurfir â’r broses, y cymhwysir diwydrwydd, a bod y Rheoliadau’n cael eu gweithredu’n gynhwysfawr.
Gweithredu ac adolygu Pwerau Cyfansoddiadol newydd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn rheolaidd, yn cynnwys ymgynghori â’r holl awdurdodau sy’n aelodau cyfansoddol,
Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, a sicrhau bod yr holl drefniadau llywodraethu cyfatebol ar waith ac yn cael eu deall gan bawb sy’n rhwym wrthynt.
Gweithio yn rhyngwyneb fframweithiau cyfreithiol a chontractau sy’n rhwymo Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a chyrff partneriaeth allweddol eraill er mwyn deall pwyntiau allweddol rhyngweithio a sicrhau safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus.
Dangos ymdeimlad cryf o ymwybyddiaeth wleidyddol a gallu canolbwyntio ar amcanion a blaenoriaethau cyfnod hir y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, bod yn bragmatig yn nannedd heriau a thywys y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i ddatblygu ac esblygu’n rhagor dros amser.
Arwain a goruchwylio gweithredu strwythur llywodraethu newydd ac amlhaenog, strwythur grŵp a rhwydwaith o is-bwyllgorau statudol, byrddau partneriaeth a phwyllgorau cynghori - rheoli’u dilyniant a’u rhyngwyneb yn unol â dirprwyaethau a phwerau llunio penderfyniadau dynodedig.
Sicrhau cydymffurfiad pob endid a lwyr berchnogir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chyd-fentrau o ran cyfraith cwmnïau, mewn cydweithrediad â’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, gan sicrhau bod adrodd blynyddol perthnasol trwy strwythur llywodraethu.
Sicrhau cydymffurfiad pob endid a lwyr berchnogir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chyd-fentrau o ran cyfraith cwmnïau, mewn cydweithrediad â’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, gan sicrhau adrodd blynyddol perthnasol trwy strwythur llywodraethu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Thŷ’r Cwmnïau yn digwydd.
Arwain a chydgysylltu gweithgaredd Tîm y Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gweinyddiad y pwyllgor yn effeithiol ac yn effeithlon a’i fod yn darparu ymdeimlad cryf o ddilyniant a threfn i gynorthwyo’r broses llunio penderfyniadau.
Darparu cyngor amserol ac effeithiol i’r Prif Weithredwr a’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol o ran cydymffurfiad cyfreithiol a Chodau Ymddygiad statudol.
Closing date: 4 March 2025
For further information or to apply, please click on the 'Enquire/Apply' button below.